Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (172)v2 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
|
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (10 munud)
|
3 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
|
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5397 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi llwyddiannau rygbi rhyngwladol Cymru yn ddiweddar a phwysigrwydd rygbi i ddiwylliant ac i economi Cymru.
2. Yn nodi’r trafodaethau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng Undeb Rygbi Cymru a Rygbi Rhanbarthol Cymru ynghylch dyfodol rygbi Cymru ac yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynnal strwythur cryf ar lawr gwlad ac yn rhanbarthol er mwyn i’r gamp allu datblygu a ffynnu ledled Cymru.
3. Yn credu er mwyn cael llwyfan cryf ar gyfer rygbi Cymru ei bod yn rhaid i gyrff a chlybiau cenedlaethol a rhanbarthol gydweithio’n adeiladol er mwyn creu sylfaen ariannol gref er lles y gamp yn y dyfodol ac yn gobeithio y bydd y trafodaethau cyfredol yn arwain at benderfyniad yn gyflym.
|
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5398 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn gryfach gyda’i gilydd fel rhan o’r Deyrnas Unedig.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn credu y bydd y berthynas rhwng gwledydd Prydain yn cael ei chryfhau drwy barchu hawl pobloedd Prydain i benderfynu ar eu dyfodol cenedlaethol eu hunain.
2. Yn credu hefyd mai setliad cymdeithasol ac economaidd newydd o bartneriaid cyfartal fyddai’r ffordd orau o ddarparu cyd-destun teg a pharhaol ar gyfer cydweithredu yn yr ynysoedd hyn.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:
‘gyda mwy o bwerau wedi’u datganoli i bob un o’r pedair gwlad’
Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r hyn y mae datganoli wedi’i wneud i wella democratiaeth yng Nghymru a’r Alban, a’i gyfraniad at y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon. |
6 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5399 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu ac i weithredu cynllun gweithlu GIG cenedlaethol newydd ar gyfer y degawd nesaf ac i gynyddu’r gweithlu meddygol yn sylweddol yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu ‘ac i gynyddu’r gweithlu meddygol yn sylweddol yng Nghymru’ a rhoi yn ei le ‘i fynd i’r afael â heriau recriwtio yng ngwasanaeth iechyd Cymru’
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae’n bwriadu defnyddio’r £180 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i wasanaeth iechyd Cymru ar gyfer 2014-15 yn dilyn argymhellion Adroddiad Francis, er mwyn ymateb i faterion o ran y gweithlu yn GIG Cymru.
Mae Adroddiad Francis ar gael yn:
http://www.midstaffspublicinquiry.com/report
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu mai ychydig iawn o effaith y mae ymgyrchoedd recriwtio Llywodraeth Cymru, fel Gweithio dros Gymru, wedi ei chael o ran lliniaru’r prinder o glinigwyr mewn rhai disgyblaethau.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod ansicrwydd ynghylch dyfodol gwasanaethau mewn rhai ysbytai yng Nghymru wedi bod yn anfanteisiol wrth geisio recriwtio staff.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r gwariant uchel ar staff locwm ac asiantaeth ar draws byrddau iechyd yng Nghymru o ganlyniadau i heriau o ran y gweithlu.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod angen GIG sydd ag adnoddau priodol a phwysigrwydd buddsoddi mewn hyfforddiant a swyddi parhaol. |
Cyfnod Pleidleisio |
7 Dadl Fer (30 munud) NDM5391 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pam mae undebaeth lafur yn dal yn bwysig yng Nghymru
Archwilio sut y mae undebau llafur wedi esblygu yng Nghymru wrth iddynt barhau i gynrychioli buddiannau a phryderon eu haelodau, yn enwedig yn yr hinsawdd o gyni sydd ohoni. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 21 Ionawr 2014